Hudební video
Hudební video
Kredity
PERFORMING ARTISTS
Cowbois Rhos Botwnnog
Performer
COMPOSITION & LYRICS
Cowbois Rhos Botwnnog
Songwriter
PRODUCTION & ENGINEERING
Cowbois Rhos Botwnnog
Producer
Texty
Mi ges fy ngeni mewn clawdd eithin,
Ac am eiliad, fi oedd Llŷn,
Dim ond am ennyd, rhyw bryd cyn hyn,
Ro'n i'n ysgeintiad glas a melyn.
Clyw 'mhlentyndod hyd y caeau,
A chlyw 'mhen-blwydd i yn yr ha',
Clyw rhyw oes pan o'n i yna,
Yn dân yn y brynia',
Yn dân ddiwedd ha'.
Wn i ddim pam mod i'n teimlo fel hyn,
A finna'n amau bod y byd 'na wedi mynd,
Wn i ddim pam mod i'n teimlo fel hyn.
Mae'r plu yn heidio ynof i heno,
A'u hofnau'n hefru trwy fy llaw,
Yn codi 'mraich tra 'mod i'n cysgu,
A'n danfon fy nghorff i draw dros y bae.
A wnest ti ymestyn tuag ataf,
Ynteu ai ond y gwynt a drodd rhyw dro?
A'm rhoi ar ddamwain yn dy freichiau,
A'm gadael i yna, hyd byth ar ben dy lôn.
Wn i ddim pam mod i'n teimlo fel hyn,
A finna'n amau bod y byd 'na wedi mynd,
Wn i ddim pam mod i'n teimlo fel hyn.
Fel rhyw beth wedi'i adael ar ei hanner,
Rhyw beth a dorrodd yn dy law,
Rhyw beth wedi'i adael ar ei hanner.
Wn i ddim pam mod i'n teimlo fel hyn,
A finna'n amau bod y byd 'na wedi mynd,
Wn i ddim pam mod i'n teimlo fel hyn.
Written by: Cowbois Rhos Botwnnog