album cover
Dewi Sant
album cover
Dewi Sant was released on March 1, 2024 by Sain (Recordiau) Cyf. as a part of the album Y Ddwy Chwaer / The Two Sisters
March 1, 2024
LabelSain (Recordiau) Cyf.
BPM74
Melodicness
Acousticness
Valence
Danceability
Energy

Music Video

Music Video

Lyrics

Fe roist dy hedd i'r bryniau yn y nos
A'r lloer fel lamp y deml uwch y waun
Dy gân yw cri'r gylfinir ar y rhos
Dy lendid ydyw'r gwlân sydd ar y draen
O seren yn y stabl, Ddwyfol Dân
Rho inni ras i wneud y pethau mân
Frodyr a chwiorydd
Byddwch lawen
Fe roist ffurfafen haf i'r hedydd rhydd
A chyfrinachau'r gaeaf oer i'r dryw
Fe dynnaist win doethineb dwfn o'r pridd
A rhwygo bara er mwyn i'r marwol fyw
Gydymaith yr ysgymun, Ddwyfol Dân
Rho inni ras i wneud y pethau mân
Frodyr a chwiorydd
Cadwch y ffydd
Fe roist i'r haul a'r had eu priod le
A dilyn llwybr ein crwydradau oll
Ni allwn ymbellhau o olwg ne'
Ni all yr un o'th geraint fynd ar goll
Drysor yr holl Genhedloedd, Ddwyfol Dân
Rho inni ras i wneud y pethau mân
Frodyr a chwiorydd
Gwnewch y pethau bychain
A welsoch ac a glywsoch gennyf fi
Written by: Grahame Davies, Paul Mealor
instagramSharePathic_arrow_out􀆄 copy􀐅􀋲

Loading...