Bevorstehende Konzerte für Gwilym
Credits
PERFORMING ARTISTS
Gwilym
Performer
COMPOSITION & LYRICS
Ifan Pritchard, Rhys Grail, Llewelyn Glyn, Rich Roberts, Dafydd Math Roberts
Songwriter
Songtexte
Hir amharu am awr
Disgyn i lawr,
Ar dy feddwl yn oer â'r atgofion ddoe,
Mae'n dy rhewi di'n lan,
Cledu dy gân,
A mae'r aelwyd yn ddu ac yn oer
Mae i'w glywed yn glir,
Ar hyd y tir,
Mae'th aelwyd ar y plwy,
Does na'm tân dim mwy
Achos dwi'n oer hebdda chdi,
Achos dwi'n rhewi hebddan ni,
Pluen wen o'r nen ar dy ben
Sydd ar dy feddwl di
Llunio darn o rhew,
Gyda pobl yn dy
Weld di ac yn sbio ar dy gred di tra ti'n sefyll yno'n gwenu'n ddel,
Ti'n meddalu,
O flaen nhw'i gyd,
Gyda'th gampwaith yn y gornel yn yr
Ogof honno'r oriel, trio dianc i arallfyd,
Mae i'w glywed yn glir,
Ar hyd y tir, a'th aelwyd ar y plwy'
Does na'm tân dim mwy
Achos dwi'n oer hebdda chdi,
A dwi'n rhewi hebddan ni,
Pluen wen o'r nen ar dy ben
Sydd ar dy feddwl di.
Writer(s): Ifan Gwilym Pritchard, Llywelyn Glyn Williams
Lyrics powered by www.musixmatch.com