Songtexte
Wrth edrych nôl, oni'n gwrthod fy nheimladau, wastad yn dyfalu be sy'n bod
yn sownd yn y rhigol, yn baglu dros y nod
Wrth symud 'mlaen, dwi fethu helpu edrych nôl
Dal i gydio, yn y gorffennol
Mae'n anodd agor fyny, dwi dal yn teimlo'r tynnu
Dwi di flino, llawer gormod i gario 'mlaen
Mae'r llong ar y creigiau heb law ar y gorwel, fel dwrn trwy dŵr
Yw'r gwir gwell na'r gweiddi?
Gofyn be' ti moyn, 'nai ateb be' dwi gallu
Fi'n dechrau pigo lan, y bobl dwi 'di adael lawr, er dwi'n siŵr i gwympo fory
Mae'n anodd adlewyrchu, ond mae rhaid i ti ffynnu
Dwi di flino, llawer gormod i gario 'mlaen
Mae'r llong ar y creigiau heb law ar y gorwel, fel dwrn trwy dŵr
Oni'n edrych mas am rywun
Heb edrych mewn am un rhywbeth
Fi dal i, dal i edrych nôl
Written by: Mellt

