Letras

Pan fwyf yn hen a pharchus Ag arian yn fy nghod A phob beirniadaeth drosodd A phawb yn canu 'nghlod Mi brynaf fwthyn unig Heb ddim o flaen ei ddôr Ond creigiau Aberdaron A thonnau gwyllt y môr Pan fwyf yn hen a pharchus A'm gwaed yn llifo'n oer A'm calon heb gyflynnu Wrth wylied codi'r lloer Bydd gobaith im bryd hynny Mewn bwthyn sydd â'i ddôr At greigiau Aberdaron A thonnau gwyllt y môr Pan fwyf yn hen a pharchus Tu hwnt i fawel a sen A'm cân yn nôl y patrwm A'i hangerdd oll ar ben Bydd gobaith im bryd hynny Mewn bwthyn sydd â'i ddôr At greigiau Aberdaron A thonnau gwyllt y môr Oblegid mi gaf yno Yng nghri'r ystormus wynt Adlais o'r hen wrthyfel A wybu f'enaid gynt A chanaf â'r hen angerdd Wrth syllu tua'r ddôr Ar greigiau Aberdaron A thonnau gwyllt y môr Ar greigiau Aberdaron A thonnau gwyllt y môr
Writer(s): Meirion Williams, Cynan Cynan Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out