album cover

Barti Ddu

338Folk2017
album cover
Barti Ddu è stato pubblicato il 7 agosto 2017 da Rasal CD042 come parte dell'album Bwncath
AlbumBwncath
Data di uscita7 agosto 2017
EtichettaRasal CD042
BPM157
Melodicità
Acousticità
Valence
Ballabilità
Energia

Testi

Ar longau pren y lladron
Pob gŵr sy’n graig ei galon
A pris eu pennau’n pwyso’n drwm bob dydd
Ond wrth fod yn adlewyrchol
Mae i’w weld yn dra derbyniol
I dalu’r pris bach hwn am fywyd rhydd
O Barti Ddu
Wrth ‘mi weld drwy dy lygaid di
Dw i’n gweld dy long a’i hwyliau gwynion ar y lli
O Barti Ddu
Tria weld drwy fy llygaid i
Mi welai’r don ond does dim rhyddid arni hi
Gwêl dyn heb dir i’w goncro
Ni aiff un ennyd heibio
Cyn iddo droi ei olygon at y dŵr
Er na allai godi pebyll
A’i faner ni all sefyll
Fe fynnai ei berchnogaeth hyn sy’n siŵr
O Barti Ddu
Wrth ‘mi weld drwy dy lygaid di
Dw i’n gweld dy long a’i hwyliau gwynion ar y lli
O Barti Ddu
Tria weld drwy fy llygaid i
Mi welai’r don ond does dim rhyddid arni hi
Rwyt ti yn ddibynnol ar dy griw
Iddyn nhw a dy long yr wyt yn driw
Am hyn mae dy ddwylo ar y llyw
Ac i chdi dyna’r unig ffordd i fyw
Rwyt ti yn ddibynnol ar dy griw
Iddyn nhw a dy long yr wyt yn driw
Am hyn mae dy ddwylo ar y llyw
Ac i chdi dyna’r unig ffordd i fyw
O Barti Ddu
Wrth ‘mi weld drwy dy lygaid di
Dw i’n gweld dy long a’i hwyliau gwynion ar y lli
O Barti Ddu
Tria weld drwy fy llygaid i
Mi welai’r don ond does dim rhyddid arni hi
Mi wela i’r don
Ond does dim rhyddid arni hi
Written by: Llywelyn Elidyr Glyn, Meredydd Wyn Humphreys

Footer Shazam

Seleziona lingua:
Google Play Store
Apple App Store
Chrome Web Store
Galaxy Store

Seguici

Loading...