Crediti
PERFORMING ARTISTS
Cowbois Rhos Botwnnog
Performer
COMPOSITION & LYRICS
Cowbois Rhos Botwnnog
Songwriter
PRODUCTION & ENGINEERING
Cowbois Rhos Botwnnog
Producer
Testi
Mae na rwbath wedi newid,
ond alla i ddim dweud be,
dw i di troi'n rhywbeth newydd,
wedi symud o fy lle,
ac mae'r un a oedd ar ei gythlwng,
a'n gollwng ei flawd lli',
mae o wedi ffoi, cyn i mi droi,
ers symud atat ti.
A dw i'n synnu ar sut mae'n digwydd, dim ond cwrdd a dyna ni,
ond ti'n dewis dilyn llwybr wrth ymroi yn llwyr i'r lli.
Dw i'n dysgu gin ti, cariad,
yn dysgu mwy a mwy,
dw i di clymu rhuban ar y gwynt,
Duw a ŵyr i bwy,
a dwi'n disgwyl y bydda i'n deall
pob un wefr sy'n symud trwy
ein llinynnau ni, y rheiny sy'
yn canu trwy bob clwy'.
A dw i'n teimlo'r holl ddefodau a oedd yn segur am rhy hir
mond am ennyd fach yn symud eto trwydda' i,
a dw i'n teimlo'r peth yn digwydd, y cwrdd a'r dyna ni',
ond ti'n dewis dilyn llwybr wrth ymroi'n llwyr i'r lli.
Written by: Cowbois Rhos Botwnnog

