クレジット

PERFORMING ARTISTS
Gai Toms
Gai Toms
Lead Vocals
Aled Wyn Hughes
Aled Wyn Hughes
Bass Guitar
DION VAUGHAN HUGHES
DION VAUGHAN HUGHES
Drums
Einir Humphreys
Einir Humphreys
Background Vocals
Euron Jones
Euron Jones
Electric Guitar
COMPOSITION & LYRICS
Gai Toms
Gai Toms
Songwriter
PRODUCTION & ENGINEERING
Gai Toms
Gai Toms
Producer
Aled Wyn Hughes
Aled Wyn Hughes
Producer

歌詞

Pen Llŷn
Pan mae'r domen yn cau amdanaf
A'r bedol ar ei lawr
Gwynt y môr a'i swyn sy'n galw
I'r awyr mawr a fi
Colli'n hun yn y grug a'r eithin
Colli'n hun ar dywod melyn
Wyf sgotwr balch yn canu
Wyf sant ar y Swnt i Enlli - Pen Llyn
A'r drywydd hen wlad fy nhadau
Chwilfrydedd fy ngwaed
Carn i garn, heli i heli
Hel olion traed
Colli'n hun ar lwybrau troellog
Colli'n hun ar ros Botwnnog
Wyf Polly Preston, wyf Samiwel
Wyf Fesen dan rwbel chwarel - Pen Llyn
Er myfyrdod, er gogoniant
Yr un hen betha'n y bôn
Prisiau tai 'di mynd drwy'r to
O Fynwy i Sir Fôn
Colli mhen, isio torri'n rhydd
Colli mhen, isio gweld y dydd
Wyf wyllt fel fflamau Penyberth
Wyf weddi'r capel sydd ar werth - Pen Llyn
Wyf enw gwreiddiol y bwthyn hwn
Wyf gynnyrch lleol y gora mi wn
Wyf ffarmwr cry, wyf gimwch du
Wyf Dafydd Jones yn gweiddi
Wyf deulu selog isio cartra clyd
Wyf stori ddirgel pen draw'r byd
Wyf bererindod rhyddid gwlad
Wyf garwr tra mad
Ar y daith mae angen ffynnon
Angen sbyty, angen hafan
A mynadd fel y mynaich
Ac ysgwydd a braich - Pen Llyn
Pan mae'r domen yn cau amdanaf
Cofiaf wynt y môr
A throi y bedol ar ei fyny
Ysgafnhau fy angor
Written by: Gai Toms
instagramSharePathic_arrow_out

Loading...