크레딧

실연 아티스트
Cowbois Rhos Botwnnog
Cowbois Rhos Botwnnog
실연자
작곡 및 작사
Cowbois Rhos Botwnnog
Cowbois Rhos Botwnnog
작사가 겸 작곡가
프로덕션 및 엔지니어링
Cowbois Rhos Botwnnog
Cowbois Rhos Botwnnog
프로듀서

가사

Mi wnes i osod magl,
a dal llwynog bach mor goch â'r haul yn y bora,
ond do'n i ddim yn hela,
do'n i ond yn chwarae bach bod yn heliwr
yn rhywle, yn y Taiga, yn y gaea'.
Datod traed a dwylo,
clymu'r gwyll a'r gwawn
yn becyn ar y set gefn.
Wyt ti'n gynnes?'
Wyt ti'n iawn?'
Ydi'r car yn glyd?'
Dw i'n gweld dy wyneb yn y drych,
y trwyn bach yn s'nwyro wrth y ffenast,
yn y bagiau a'r pecynnau gwag i gyd,
yn gweld y byd am y tro cyntaf un,
a'n treiglo'n syth, fel dŵr trwy nwylo i.
Nathon ni osod magl,
a chael ein dal gan rywbeth bach,
gweld ein hanes, ond am eiliad,
yn mynd fel cysgod dros ei wyneb.
Datod traed a dwylo,
clymu'r gwyll a'r gwawn
yn becyn ar y set gefn.
Wyt ti'n gynnes?'
Wyt ti'n iawn?'
Ydi'r car yn glyd?'
Dw i'n gweld dy wyneb yn y drych,
y trwyn bach yn s'nwyro wrth y ffenast,
yn y bagiau a'r pecynnau gwag i gyd,
yn gweld y byd am y tro cyntaf un,
a'n treiglo'n syth, fel dŵr trwy nwylo i.
Written by: Cowbois Rhos Botwnnog
instagramSharePathic_arrow_out

Loading...