album cover
Celwydd
album cover
Celwydd foi lançado em 26 de junho de 2026 por Recordiau Côsh Records como parte do álbum Disglair
ÁlbumDisglair
26 de junho de 2026
EditoraRecordiau Côsh Records
BPM125
Melodicidade
Acústica
Valência
Dançabilidade
Energia

Letra

Hanner nos. Pryd ddaw hyn i ben?
Yn fy ngwely, meddyliau'n troi'n fy mhen.
Hanner nos. Dwi ar ben fy hun.
Yr un yw'r patrwm da ti, dy eiriau'n golygu dim i mi.
Ti'n credu dy gelwydd,
bo ti yno i mi pan dwyt ti ddim.
Ti'n credu dy gelwydd,
dwin' gweld mai fi yw'r ffŵl am gredu hyn.
Ti'n credu dy gelwydd.
Ond mae celwydd yn magu celwydd
A dwi ddim, yn credu dy gelwydd
Mae'n bryd i mi symud ymlaen o fan hyn
O fan hyn
Hanner nos. Dyw'r cloc ddim yn troi yn ôl
Nes i dy ddal yn twyllo, a ti sy'n bod yn ffôl
Hanner nos ,disgynodd esgid om troed
Dwi'n gadael ti fan hyn, fi sy'n bod yn ddoeth!
Ti'n credu dy gelwydd.
Bo ti yno i mi pan dwyt ti ddim
Ti'n credu dy gelwydd.
Dwin' gweld mai fi yw'r ffwl am gredu hyn
Ti'n credu dy gelwydd.
Ond mae celwydd yn magu celwydd
A dwi ddim, yn credu dy gelwydd
Mae'n bryd i mi symud ymlaen o fan hyn
O fan hyn
Dwi'n credu mewn karma
Dwi'n osgoi y drama
Ti wnaeth wneud fi'n unig
A nawr dwi'n dy adael di.
Dwi'n gweld drwy dy gelwydd
Roedd gwrando arno ti fel datrys pos
Dwi'n gweld drwy dy gelwydd
Dyw dy eiriau'n golygu dim ar hanner nos.
Written by: Rosie Reed, Ynyr Gruffudd Roberts
instagramSharePathic_arrow_out􀆄 copy􀐅􀋲

Loading...