Слова

Mae'r holl longau ar y cei yn llwytho Pam na chaf i fynd fel pawb i forio? Dacw dair yn dechrau warpio Ac am hwylio heno I Birkinhead, Bordo a Wiclo Toc daw'r stemar bach i'w towio Golau coch ar waliau wrth fynd heibio Llongau'n mynd a dod a llongau'n canlyn Heddiw, fory ac yfory wedyn Mynd a'u llwyth o lechi gleision Dan eu hwyliau gwynion Rhai i Ffrainc a rhai i'r Werddon Toc daw'r stemar bach i'w towio Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio Pam na chaf i fynd yn llongwr Ar holl longau yn llwytho yn yr harbwr? Holaf ym mhob llong ar hyd yr harbwr 'Oes 'na le i hogyn fynd yn llongwr? A chael spleinsio rhaff a rhiffio? A chael dysgu llywio? A chael mynd mewn cwch i sgwlio?' O pam na chaf i fynd yn llongwr Ar holl longau yn llwytho yn yr harbwr? Ie pam na chaf i fynd ar f'union Dros y môr a hwylio yn ôl i G'narfon Yn ol ôl i G'narfon, yn ôl i G'narfon Yn ôl i G'narfon
Writer(s): Geraint Cynan, J Glyn Davies Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out