album cover

Caeau

379Folk2017
album cover
Caeau was released on August 7, 2017 by Rasal CD042 as a part of the album Bwncath
AlbumBwncath
ReleasedAugust 7, 2017
LabelRasal CD042
BPM134
Melodicness
Acousticness
Valence
Danceability
Energy

Lyrics

Y mae’r byd o dy flaen i’w weld yn wylo
Ond i ti sydd gan glystiau, clyw
Y mae gobaith yn wir yn cuddio ynddo
Yng nghalonnau y rhai sydd yn driw
Mae hi’n well erbyn hyn i ddafad grwydro
Er y gall hynny godi’r blew
Os dilynir y praidd, hi fydd yn llithro
Lawr i deyrnas y blaidd a’r llew
Yr oeddem gynt yn blant i’r byd
Yn rhan o’i hud a’i gyffro
Yn dal addewid yn y fron
I brofi ofn heb wywo
Ond wrth i wenwyn daro gwraidd
Mae’n gwneud i’r craidd anghofio
A wele’r hyder fuodd gynt
Yn ildio i’r gwynt heb frwydro
Os am fyw i dy hun mae’n dda i gofio
Mai drwy lwc y daeth dy fraint dros dro
Ac mai’r rhai sy’n cael llonydd i flaguro
Sy’n gyfrifol am harddwch y fro
Yr oeddem gynt yn blant i’r byd
Yn llawn o’i hud a’i gyffro
Ond o anghofio bod yn llon
Fe ddaeth yr ofn i’n gwywo
Ond wrth i hadyn brofi’r gwir
Fe fydd cyn hir yn cofio
Ac wele’r egin ar ôl glaw
Yr haul ddaw i’w oleuo
Ti’n cofio pwy wyt ti, ti’n cofio’r llais?
Yn ôl dy eiriau
'Nes ti addo dod yn ôl
Ti’n cofio pwy wyt ti, ti’n cofio’r llais?
Yn ôl dy eiriau
'Nes ti addo dod yn ôl
Ti’n cofio pwy wyt ti, ti’n cofio’r llais?
Yn ôl dy eiriau
'Nes ti addo dod yn ôl
Dwi’n cofio pwy wyt ti, dwi’n cofio dy lais
Dwi’n cofio dy eiriau di
'Nes ti addo dod yn ôl

Shazam Footer

Select language:
Google Play Store
Apple App Store
Chrome Web Store
Galaxy Store

Follow Us

Loading...