Lyrics

Mae'th fywyd di yn ddedwydd Rwyt ti'n fodlon ar dy fyd Ond mae 'na rywbeth bach yng nghefn dy ben Sy'n dy boeni di o hyd Ti'n syrthio mewn i'r fl Heb wybod be di be A does dim ar ôl ond rhyw syniad ffôl Yr aiff popeth nôl i'w le Ac mae chwarae'n troi'n chwerw Mae'r gwin yn troi'n sur Mae'r wen yn troi'n ddagrau A'r wefr yn troi'n gur Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw Wrth chwara fo tân Ac yna bob yn dipyn Mae'r darnau'n dod ynghyd Ti'n dod i ddeall sut mae cael Y gorau o ddau fyd Mae'n dod yn haws deud celwydd Sy'n swnio fel y gwir A ti'n gwbod yn iawn bod y gwpan yn llawn A bod y ffordd o'th flaen yn glir Ac mae chwarae'n troi'n chwerw Mae'r gwin yn troi'n sur Mae'r wen yn troi'n ddagrau A'r wefr yn troi'n gur Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw Wrth chwara fo tân Mae bywyd yn rhy fyr Ac amser yn mynd yn brin Ti'n ymladd a'th gydwybod Ond yn fodlon ildio ar ddim Ti'n trio peidio gwrando Ar y geiriau yn dy ben Ti'n cyffwrdd ar gwirionedd Sy'n gudd tu ol i'r llen Ti'n trio cae dy lygaid Ar beth a sut a phwy Ond ti'n gwbod yn glir bod pob dim yn wir A bod y gwir yn brifo mwy Ac mae chwarae'n troi'n chwerw Mae'r gwin yn troi'n sur Mae'r wen yn troi'n ddagrau A'r wefr yn troi'n gur Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw Wrth chwara fo tân
Writer(s): Caryl Parry Jones, Alwyn Humphreys Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out