album cover
Aberdaron
album cover
Aberdaron was released on November 25, 2022 by The Trials of Cato Ltd as a part of the album Gog Magog
November 25, 2022
LabelThe Trials of Cato Ltd
LanguageEnglish
BPM95
Melodicness
Acousticness
Valence
Danceability
Energy

Lyrics

Pan fwyf yn hen a pharchus,
Ac arian yn fy nghod,
A phob beirniadaeth drosodd
A phawb yn canu ’nghlod,
Mi brynaf fwthyn unig
Heb ddim o flaen ei ddôr
Ond creigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr
Pan fwyf yn hen a pharchus
A’m gwaed yn llifo’n oer,
A’m calon heb gyflymu
Wrth wylied codi’r lloer;
Bydd gobaith i’m bryd hynny
Mewn bwthyn sydd a’i ddôr
At greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr
Pan fwyf yn hen a pharchus
Tu hwnt i fawl a sen,
A’m cân yn ôl y patrwm
A’i hangerdd oll ar ben;
Bydd gobaith i’m bryd hynny
Mewn bwythyn sydd a’i ddôr
At greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr
Oblegid mi gaf yno
Yng nghri’r ystormus wynt
Adlais o’r hen wrthryfel
A wybu f’enaid gynt.
A chanaf â’r hen angerdd
Wrth syllu tua’r ddôr
Ar greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr
Written by: Martha Polly Bolton, Robin Phillips-Jones, Tomos Ifan Williams
instagramSharePathic_arrow_out􀆄 copy􀐅􀋲

Loading...