album cover
Eryr Pengwern
album cover
Eryr Pengwern was released on May 24, 2010 by Sain SCD 2605 as a part of the album Rhapsodi
May 24, 2010
LabelSain SCD 2605
LanguageEnglish
BPM75
Melodicness
Acousticness
Valence
Danceability
Energy

Lyrics

Fe roddwyd gwlad
Fe roddwyd caer a thir i'm gofal
Fe roddwyd gwlad
Mewn gweddi daer
Erfyniaf am nerth i'w chynnal
Fe roddwyd gwlad
Boed imi'r grym a'r gallu sy'n dragwyddol
Wynebu her a chamu i'r dyfodol
Eryr Pengwern, ein cadernid
Eryr Pengwern, arwydd rhyddid
Muriau'r gaer dan adain heno
Dan dy lygaid, yn dy ddwylo
Yn dy fynwes fawr diflino
Dinas ar y bryn sy'n fyw o hyd
Fe roddwyd nos
Fe roddwyd haul y dydd i'w ganlyn
Fe roddwyd nos
A thra bydd nerth
Fe heriaf eto gaer y gelyn
Boed imi'r nerth (boed imi'r nerth)
Rhaid i mi fyw, byw er mwyn fy mhobl
Rhaid i mi fyw, a chamu i'r dyfodol
Eryr Pengwern, ein cadernid
Eryr Pengwern, arwydd rhyddid
Muriau'r gaer dan adain heno
Dan dy lygaid, yn dy ddwylo
Yn dy fynwes fawr diflino
Dinas ar y bryn sy'n fyw o hyd
Fe roddwyd tras,
Fe roddwyd hil i mi anwylo
Fe roddwyd tras
Fe roddwyd gwaed,
Y gwaed fydd eto ar fy nwylo
Fe roddwyd gwaed (fe roddwyd gwaed)
Heb unrhyw ofn, fe hawliaf ffawd fy mhobl
Heb unrhyw ofn, a chamu i'r dyfodol
Eryr Pengwern, ein cadernid
Eryr Pengwern, arwydd rhyddid
Muriau'r gaer dan adain heno
Dan dy lygaid, yn dy ddwylo
Yn dy fynwes fawr diflino
Dinas ar y bryn sy'n fyw o hyd
Eryr Pengwern, ein cadernid
Eryr Pengwern, arwydd rhyddid
Dinas ar y bryn, dinas ar y bryn
Dinas ar y bryn sy'n fyw o hyd
Written by: Derec Williams, Linda Gittins, Penri Roberts
instagramSharePathic_arrow_out􀆄 copy􀐅􀋲

Loading...