album cover

Lino

12Country2026
album cover
Lino was released on July 31, 2026 by Sbrigyn Ymborth as a part of the album Haul Bach
ReleasedJuly 31, 2026
LabelSbrigyn Ymborth
BPM155
Melodicness
Acousticness
Valence
Danceability
Energy

Lyrics

Un bore braf, a'r haul arnaf trwy'r gwydr, a'i lwch yn yr awyr,
Ro'n i'n gweithio ar ddim byd pan nes i ddisgyn trwy lawr y gegin,
Neshi lithro lawr trwy'r linodoedd na ddim byd yno.
Gweld fy hun yn y drych yn nrws y stôf, gweld llun mor wych o'r dyn bach dof,
Y dyn sych yn ei chwys, mae o'n byw ar gryfder y bys sy'n cydio ym mwrdd y gegin,
Yn dal ei gorff rhag disgyn, y bys bach gwyn sy' di lapio, yn cydio'n dynn amdano,
a'r gweddill ohono wedi llithro i lawr drwy'r lino.
Gwêl 'ngwepo syn, a 'nhraed bach yn cythru ar ddim, cyn peidio,
Onid oeddet ti'n gwybod, bo' na ddim byd yno?'
Ac mae'r llais yn gofyn: Be 'di'r ots os mai rŵan 'ta wedyn?
'Chos ma pawb yn disgyn, a ma' bob dim pwysig yn digwydd cyn hyn,
Yn y cariad ti di gael.'
A dw i'n sbïo lawr.
Ti'n fwy na gwraig,
Ti'n dalaith, a ti'n wlad,
Ti'n rwbath dw i'n ei deimlo o dan fy nhraed.
Written by: Iwan Glyn Hughes

Shazam Footer

Select language:
Google Play Store
Apple App Store
Chrome Web Store
Galaxy Store

Follow Us

Loading...