Müzik Videosu
Müzik Videosu
Krediler
PERFORMING ARTISTS
Carwyn Ellis
Lead Vocals
Carwyn Ellis & Rio 18
Performer
COMPOSITION & LYRICS
Giancarlo Bigazzi
Songwriter
Riccardo del Turco
Songwriter
Şarkı sözleri
Gorffennaf, mis mor braf, sai ishe ti i ddod i ben (ya ya ya ya)
Gorffennaf, hi nath addo dod â'r cariad fi angen (ya ya ya ya)
A tithe, ar lan y môr, amser hyn flwyddyn yn ôl
Pan ddywedest 'byddem gyda'n gilydd fis Gorffennaf, ti a fi'
Sai wedi gweld ti eto, mae'n rhewi yn fy nghalon
Hebddo ti
Gorffennaf, teimlo fel gaeaf os na fyddi di'n cyrraedd (ya ya ya ya)
Gorffennaf, camgymeriad mwyaf, siomedig braidd (ya ya ya ya)
Oherwydd, ar lan y môr, wyt ti heb ddod yn ôl
Ac mae'n Orffennaf am rhyw dridie arall - be wnai?
Sai wedi gweld ti eto, mae'n rhewi yn fy nghalon
Hebddo ti
Gorffennaf, bore ma, heb obaith, dihunes i (ya ya ya ya)
Es lawr i'r traeth a dyna ble roeddet ti (ya ya ya ya)
Rwyt ti 'ma, ar lan y môr, a sai'n teimlo mor oer
Rhêd nôl ata i, sai'n poeni am yr oedi - rwy'n caru ti!
Gorffennaf nawr mae'n haf, mae'n heulog yn fy nghalon
Gyda ti
Rwyt ti 'ma, ar lan y môr, a sai'n teimlo mor oer
Rhêd nôl ata i, sai'n poeni am yr oedi - rwy'n caru ti!
Gorffennaf nawr mae'n haf, mae'n heulog yn fy nghalon
Gyda ti
Written by: Giancarlo Bigazzi, Riccardo del Turco


