Lyrics

Draw yn yr ëangderau Ymddengys hwyr a borau Wib-seren hynod O fewn y cylch serennog 'Does blaned mor fawreddog A hon i'w chanfod Dros fil o filoedd Maith o filltiroedd Drwy'r hardd ardaloedd A grognant uwch y llawr Pa ddyn all chwilio allan Wir angian hon yn awr? Hi heria holl alluoedd Seryddwyr mawr yr oesoedd A'u gwydr-ddrychau I'w chwilio hyd yr eithaf A chanfod cylchoedd pellach Pob oes yn nghyfwng amser Ddadguddia ryw orwychder Pe engyl gwlad goleuni Ar edyn ddeuai'n codi Ar daith felltenawl Cae, weled myrdd myrddiynau O newydd ryfeddodau Y bröydd wybrenawl O'r sail ymsiglant Ac ymollyngant Pob defnydd doddant A'r sêr a syrthiant lawr Yr haul a'r lloer a ddûant O! ryfedd, ryfedd awr Hi heria holl allnoedd Seryddwyr mawr yr oesoedd A'u gwydr-ddrychau I'w chwilio hyd yr eithaf A chanfod cylchoedd pellach Pob oes yn nghyfwng amser Ddadguddia ryw orwychder
Writer(s): Cerys Hickman Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out