Lyrics

Fel ar y môr o wydr Rwy'n brysio o ma'n brysur tua thrag'wyddoldeb O dwg fi o'r dyfnderoedd I nofio tua'r nefoedd mewn prysurdeb Un ran, wy'n geisio i f'enaid gwan Nid wrth im' rwyfo'n rhywfodd Y deuaf o'r dyfndero'dd i ben fy siwrne O dwg fy enaid clwyfus O'r dyfroedd dyfnion dyrus i'm tirion artre' Mae'm taith, trwy'r tonnau mawrion maith A'r ochor draw ca'i ganu' Ac fyth ryfeddu'th waith Defnyddiau i gyd a doddant A'r dda'r a'r nef a grynant trwy ddirfawr allu Bydd ser y nef yn syrthio A'th air yn cael ei wirio yn eglur ini Does le in' yna yn y ne' Er dim ni ddeu'm i dreio wrth droedio maes o dre Fel ar y môr o wydr Rwy'n brysio oddiyma o brysur tua thrag'wyddoldeb O dwg fi o'r dyfnderoedd I nofio tua'r nefoedd mewn prysurdeb Fe gân yr udgorn o dy fla'n A'r byd yn wenfflam olau A'r mor a'i donau'n dân Y dua'r haulwen sy'n y ffurfafen Y syrth pob seren Nes clywo'r meirw o'r bedd yn groyw Llef yn eu galw Mewn synus eiriau'n d'we'yd wrth y creigiau "Dewch am ein penau" Mewn gwisgoedd gwynion, a'u tanau'n dynion Yn canu'n eon Mae yna filoedd draw yn y nefoedd Ddaeth o'r dyfnderoedd A'r tan a'r dwfr sydd fel yn bentwr Dwg fi sydd wanwr Sef arch i'm cadw Tro'i ar y dilnw Cei glod i'th enw Mae'n lampau'n diffodd Nid oeddem barod Waith ini wrthod ei hynod alwad e' Fel ar y môr o wydr Rwy'n brysio o ma'n brysur Tua thrag'wyddoldeb
Writer(s): Cerys Hickman Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out