Music Video
Lyrics
Gwyn eu byd, yr adar gwylltion
Hwy gânt fynd y ffordd a ffynnon
Rhai tua'r mor a rhai tua'r mynydd
A d'ad adref yn ddigerydd
Gwyn fy myd, na fedrwn hedeg
Bryn a phant a goriwaered
Mynnwn wybod, er ei gwaethaf
P'le mae'r gog yn cysgu'r gaeaf
Yn y coed y mae hi'n cysgu
Ac yn yr eithin mae hi'n nythu
Yn y llwyn, tan ddail y bedw
Dyna'r fan y bydd hi'n farw
Gwyn fy myd, na fedrwn hedeg
Bryn a phant a goriwaered
Weithiau i'r môr a weithiau'r mynydd
A d'ad adref yn ddigerydd
Writer(s): Traditional Song
Lyrics powered by www.musixmatch.com