album cover

Suddo

33Folk2025
album cover
Suddo è stato pubblicato il 7 maggio 2025 da Sain (Recordiau) Cyf. come parte dell'album Bwncath III
Data di uscita7 maggio 2025
EtichettaSain (Recordiau) Cyf.
BPM92
Melodicità
Acousticità
Valence
Ballabilità
Energia

Testi

Wel dyma ddweud ffarwel fy annwyl gariad
‘Dwi’n ymddiheuro ‘mod i’n gorfod ffoi
Gobeithio ‘bo chdi’n dallt, nid dyna ‘mwriad
Ond mae’n amser i’r dudalen droi
Ac os ‘na i ddeud ‘dwi’n dy garu
Mae hynny yr un mor wir ag o’r blaen
Ac wrth ‘mi drio anghofio dy wên
Mae ‘nghalon yn suddo dan y straen
Ac wrth ‘mi symud ‘mlaen i’r bennod nesa’
‘Dwi’n teimlo’n eitha ysgafn yn fy mhen
Ond ma’ ‘nghorff yn dal i gicio’i sodla’
Wrth gofio’n bod ni wedi dod i ben
Ac os ‘na i ddeud ‘dwi’n dy garu
Mae hynny yr un mor wir ag o’r blaen
Ac wrth ‘mi drio anghofio dy wên
Mae ‘nghalon yn suddo dan y straen
A rŵan wrth i’r dyddia’ droi’n wythnosa’
‘Dw innau’n dal i drio twyllo’n hun
Gan feddwl fysa hi’n hawdd claddu teimlada’
Sy’ wastad yn dod ‘nôl i frathu dyn
Ac os ‘na i ddeud ‘dwi’n dy garu
Mae hynny yr un mor wir ag o’r blaen
Ac wrth ‘mi drio anghofio dy wên
Mae ‘nghalon yn suddo dan y straen
Os ‘na i ddeud ‘dwi’n dy garu
Mae hynny yr un mor wir ag o’r blaen
Ac wrth ‘mi drio anghofio dy wên
Mae ‘nghalon yn suddo dan y straen
Ie, mae ‘nghalon dal i suddo dan y straen
O, mae ‘nghalon dal i suddo dan y straen
Written by: Llywelyn Elidyr Glyn, Robin Llwyd Jones, Twm Ellis

Footer Shazam

Seleziona lingua:
Google Play Store
Apple App Store
Chrome Web Store
Galaxy Store

Seguici

Loading...